Croeso
Y Cyntedd
Hwn oedd cyntedd y tŷ yn 1827.
Lleoliad Unigryw i Briodasau
Mae'r tŷ a'r gerddi hardd yng Nghastell Aberteifi yn lleoliad trawiadol ar gyfer priodasau. Dysgwch fwy yn www.cardigancastle.com/weddings-celebrations/
Y Gerddi
Cyn y prosiect adfer yn 2015, roedd gerddi'r Castell wedi tyfu'n wyllt.
Y Delltwaith
Mae'r delltwaith yn dyddio o 1827 pan ychwanegwyd ffasâd ac ystafelloedd at y tŷ gan Arthur Jones. Fe'i gwnaed o bren cedrwydd Canada ac mae wedi para'n syndod o dda – mae dros 60% ohonno yn wreiddiol.
Bwa Canoloesol
Islaw'r rhan hon o'r tŷ mae rhan o fwa canoloesol. Mae hwn yn perthyn i Dŵr y Gogledd o gastell y 13eg ganrif.
Yr Ystafell Fwyta
Ym 1827 cynlluniwyd yr ystafell hon yn Ystafell Fwyta ac fe'i defnyddiwyd felly tan 1940. Byddai wedi cynnwys bwrdd bwyta hir gyda chadeiriau a seidbord.
Barbara Wood
Rhwng 1940 a 2000 cyfeiriai Barbara Wood at yr ystafell hon fel y 'Lolfa'. Barbara Wood oedd perchennog preifat olaf Tŷ Castle Green. Prynodd yr eiddo ym mis Mai 1940 a bu'n byw yma am bron i 60 mlynedd. Mae'r ffotograff yn dangos y ffenestr cyn yr adfer.
Arddangosfa'r Eisteddfod
Heddiw mae'r ystafell hon yn cyflwyno arddangosfeydd diddorol am hanes yr Eisteddfod. Dyma'r unig arddangosfa barhaol a neilltuir i'r ŵyl genedlaethol hon.
Y Parlwr
Ym 1827 cynlluniwyd yr ystafell hon i fod yn Barlwr ac fe'i defnyddiwyd felly tan 1940. Dengys cofnodion fod yr ystafell, ym 1851, wedi'i dodrefnu'n dda â soffas a chadeiriau esmwyth, byrddau amrywiol a nifer o addurniadau. Heddiw mae'n cynnwys arddangosfa am hanes y dref.
Yr Ystafell Gerdd
Rhwng 1940 a 2000 cyfeiriai Barbara Wood at yr ystafell hon fel 'Yr Ystafell Gerdd'. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd yn cynnwys canhwyllyr crisial enfawr y Frenhines Anne, piano traws Steinway, gramoffon a dwy soffa.
Lle tân
Mae'r lle tân hwn yn dyddio o 1827. Mae'r ffotograff hwn yn ei ddangos ym 1986 pan oedd Barbara Wood yn byw yma.
Pelen Ganon
Cafodd y belen ganon hon o’r Rhyfel Cartref ei thanio yn y castell gan Seneddwyr ym mis Rhagfyr 1644.
Byrllysgau
Dechreuodd y byrllysgau hyn eu hoes yn bâr o gwpanau cymun arian i Frenin Siarl I. Ewch i'r Castell i gael gwybod mwy am eu gorffennol lliwgar.
Ffris
Copi o un sy'n dyddio o 1827 yw'r ffris hwn.
Llawr Cyntaf
Rydych chi ar fin dringo i fyny i'r llawr cyntaf. Yn 1827 roedd yr ardal hon o'r tŷ yn cynnwys prif ystafelloedd gwely'r teulu gyda llety ar wahân ar gyfer meistr a meistres y tŷ. Fe welwch hefyd yr ystafell ymolchi dan do gyntaf yn Aberteifi yn ôl pob tebyg - moethusrwydd sylweddol bryd hynny.
Wal Grom
Mae'r crymedd hwn yn y wal yn dynodi safle'r grisiau tro canoloesol gwreiddiol. Ymestynnai’r rhain o'r seler isod, yr holl ffordd hyd at y parapet.
Paentiad o Barbara Wood
Prynodd Barbara Wood (1918-2009) y tŷ ym mis Mai 1940. Cyn hir, fe’i cafodd yn anodd fforddio'r gwaith cynnal a chadw ar yr eiddo a dechreuodd ddadfeilio. Yn y 1980au datganwyd bod y tŷ yn anaddas i fyw ynddo a symudodd i garafán wedi'i pharcio y tu allan. Roedd hi'n adnabyddus yn lleol am ei chôt lachar a'i chariad at gathod.
Ffenestri
Pan ychwanegwyd toiledau dan do ym 1851, estynnodd y pensaer ochr ogleddol y tŷ. Roedd am gadw maint a siâp yr ystafelloedd y tu mewn, felly onglodd y wal allanol, gan greu cornel miniog. Golygai hyn fod y ffenestri'n edrych yn gywir o'r tu mewn ond yn ymddangos yn gam o'r tu allan.
Twll Dirgel
Nid oes neb yn hollol siŵr o ddiben y gilfach hon. Mae rhai o'r farn y gallasai fod yn gartref i gloer pan oedd yr arwerthwr a’r gwerthwr tai lleol John Evans (1866-1939) yn byw yma. Efallai fod gennych chi awgrym arall?
Waliau Noeth
Gadawyd y wal hon yn noeth yn ystod y gwaith adfer i amlygu ôl y newidiadau ffisegol i'r adeilad. Roedd y beiciau'n perthyn i rieni Barbara Wood.
Yr Ystafell Frecwast
Ym 1808 hon oedd yr Ystafell Frecwast. Mae'n debyg iddi gael ei newid ym 1827, ac eto tua 1851 pan gyfeiriwyd ati’n ‘Barlwr Isaf'. Bryd hynny, roedd yn cynnwys nifer o fyrddau a chadeiriau yn ogystal â chwpwrdd llyfrau.
Y Gegin
Mae'r ystafell hon y tu mewn i Dŵr Gogledd y Castell o’r 13eg ganrif. Cegin sydd yma ers 1760 o leiaf, cyn i'r rhan fwyaf o'r tŷ presennol gael ei adeiladu.
Lle Tân y Gegin
Yn y 18fed ganrif buasai rhesel gigwain dros y lle tân. Arhosodd hon yn yr ystafell hyd yn oed pan osodwyd y ffwrn yn y 1870au / 1880au. Gallwch ei gweld yn y ffotograff hwn o 2003.
Seld
Mae'r seld hon yn dyddio rhwng 1740 a 1760 ac fe'i hadeiladwyd yn benodol ar gyfer yr ystafell hon – sylwch ar y gornel grom ger y drws. Mae'r ffotograff yn ei dangos cyn yr adfer.
Y Pantri
Yn y 18fed ganrif defnyddiwyd pen gorllewinol y gegin yn bantri neu storfa fwyd.
Blwch Halen
Nid tanc dŵr mo'r strwythur metel bach hwn – sy'n nes at y ffenestr. Storio halen oedd diben y blwch llawer llai hwn. Roedd halen yn bwysig i roi blas i brydau bwyd, ond hefyd i gadw bwyd rhag difetha.
Cwpwrdd Llestri
Mae'r cwpwrdd hwn yn dyddio o 1740 i 1760.
Y Gegin Gefn
Yn y 18fed ganrif gwnaethpwyd pen dwyreiniol y gegin yn gegin gefn - sylwch ar y sinc llechi anarferol. Torrwyd yr ystafell hon i drwch y muriau canoloesol gwreiddiol.
Y Neuadd Gefn
Mae'n debyg bod y dramwyfa hon yn rhan o dŷ 1740-60. Fe'i cadwyd pan greodd John Bowen ei dŷ ym 1808 a phan ychwanegodd Arthur Jones y rhan flaen ym 1827. Fel y dengys y ffotograff hwn o 2003, roedd yn cynnwys y clychau a ddefnyddid i alw'r gweision.
Cwpwrdd Neuadd
Mae'r cwpwrdd dinod hwn yn cynnwys cyfrinach ganoloesol! Ym 1244 roedd yn rhan o wal allanol y Castell ac yn gartref i warchotgell. Gallwch weld hollt saeth wedi'i llenwi ar y dde o hyd, cilfach ar gyfer llusern ar y chwith a nenfwd carreg uwchben.
Yr Adain Ddwyreiniol
Heddiw mae Adain Ddwyreiniol Tŷ Castle Green wedi'i throi'n llety hunanarlwyo 5*. Mae rhagor o fanylion ar gael yn www.cardigancastle.com/stay
Neuadd y Gweision
Cyn 1827, mae'n debyg mai hon oedd yr Ystafell Frecwast. Rhwng 1827 a 1924, Neuadd y Gweision ydoedd. Ym 1851 roedd yr ystafell yn cynnwys soffa, mainc, bwrdd a chadeiriau, a chwpwrdd. Rhwng 1924 a 1940, hon oedd yr Ystafell Wnïo. Heddiw mae'n rhan o'r llety gwyliau. Mae'r ffotograff yn ei dangos yn ystod y gwaith adfer yn 2013.
Yr Ystafell Fwyta
Rhwng 1808 a 1827 hon oedd yr Ystafell Fwyta. Ym 1827 fe'i rhannwyd yn ddwy ystafell – Pantri’r Bwtler (sy’n ystafell ymolchi erbyn hyn) ac Ystafell Geriach. Mae'r ffotograff yn dangos Pantri’r Bwtler ym 1985.
Lle Tân
Mae'r lle tân yn nodwedd wreiddiol ac mae wedi'i wneud o lechi lleol. Mae'r ffotograff yn dangos yr ystafell yn ystod y gwaith adfer yn 2013.
Caeadau Ffenestri
Caeadau Sioraidd yw'r rhain. Oherwydd eu ffurfweddiad lefelau gwahân, gellir eu hagor ar wahân i reoli faint o olau dydd a ddaw i'r ystafell. Mae'r ffotograff yn eu dangos cyn y gwaith adfer.
Lle Tân
Mae'r ffotograff hwn yn dangos y lle tân cyn yr adfer. Mae'r cwpwrdd uchod wedi'i gynnwys yn yr ystafell wely newydd fel alcof.
Ffenestr Grisiau
Mae dyluniad cain y ffenestr hon yn seiliedig ar un a grëwyd gan John Nash yn Nhŷ’r Priordy, Aberteifi. Mae’r bariau gwydr sy’n cydblethu yn nodweddiadol o bensaernïaeth yr Adfywiad Gothig.
Y Feranda
Drwy godi'r ffenestr ddalennog, ac agor y drysau bach isod, gallwch gamu allan i'r feranda.
Cegin yr Adain Ddwyreiniol
Trowyd y lle hwn yn un ystafell fawr yn ystod y gwaith adfer ac mae bellach yn rhan o'r llety gwyliau. Ym 1808 fe'i rhannwyd yn groeslinol gan goridor a arweinai at Ystafell Frag ac Ystafell Flawd. Mae ôl un o’r waliau hyn i’w weld o hyd ar y llawr llechi gwreiddiol.
Twll Glo
Gallwch weld bod y ffenestr hon wedi'i throi'n flaenorol yn dwll glo. Ar ryw adeg yn ei hanes, trowyd y lle hwn yn seler glo, a’r rhan ogleddol - a fu'n Ystafell Frag - yn seler ffrwythau.
Storfa Llieiniau
Mae'n debygol fod silffoedd yn yr ystafell hon yn wreiddiol i storio llieiniau glân. Buasai golch brwnt yn cael ei adael mewn basgedi ar y llawr.
Y Copr
Dyma olion 'copr golchi' a ddefnyddiwyd i gynhesu dŵr i’r golchdy.
Y Llaethdy
O 1808 roedd cafnau llechi bas wedi'u gosod yn yr ystafell hon ar hyd y wal ddwyreiniol i gyd, hyd yn oed yng nghilfach y ffenestr. Defnyddid y cafnau i wahanu'r hufen oddi wrth y llaeth.
Lle Tân
Roedd y lle tân mawr hwn yng nghornel y simnai yn rhan o'r golchdy. Os edrychwch i fyny, gallwch weld y bariau metel crwm a ddefnyddid gan ysgubwyr simneiau ifanc i ddringo'r holl ffordd i'r to.
Y Golchdy
Ar ôl newidiadau i'r tŷ ym 1827, cyfeiriwyd at yr ystafell hon fel 'Y Golchdy'. Ym 1851 roedd yn cynnwys mangl, bwrdd, horsys dillad a heyrn gwastad. Ym 1940 fe'i trowyd yn ystafell ymolchi i'r milwyr a gafodd lety yma, gyda dau doiled a basn ymolchi.
Ystafell Sidan
Mae'r ystafell hon yn dyddio o 1827 a hon oedd y Brif Ystafell Wely ar gyfer Meistr y tŷ. Ym 1851 roedd yn cynnwys gwely pedwar postyn mahogani. Mae'r ffotograff yn dangos y lle tân ym 1986.
Ystafell yr Adar Gleision
Ym 1827 hon fuasai'r Brif Ystafell Wely ar gyfer Meistres y tŷ. Mae'r ffotograff yn dangos y lle tân cyn yr adfer.
Papur wal
Mae'r papur wal yn ailgread o'r dyluniad gwreiddiol, wedi'i baentio â llaw, a ddaeth o Baris. Cred haneswyr ei fod yn dyddio o 1827.
Ystafell Wisgo
Er ei fod wedi'i fwriadu’n ystafell wisgo, trowyd y lle hwn yn ystafell ymolchi yng nghynlluniau 1827. Mae'n debyg mai hon oedd yr ystafell ymolchi dan do gyntaf yn Aberteifi. Mae'r ffotograff yn ei dangos ym 1986, cyn y gwaith adfer.
Ystafell y Tŵr
Rhwng 1740 a 1760 buasai'r lle hwn wedi'i rannu'n ddwy ystafell wely i weision. Mae'r ffotograff yn dangos ystafell y tŵr gorllewinol cyn gwaredu’r rhaniad a dadorchuddio’r nenfwd.
Llogi Lleoliad
Gellir llogi'r ystafell unigryw hon ar gyfer cyfarfodydd, sgyrsiau neu gyflwyniadau. Mae hefyd yn lleoliad trawiadol ar gyfer priodasau. Ewch i www.cardigancastle.com am ragor o wybodaeth.
Ystafell yr Enfys
Mae'r ystafell hon yn dyddio o 1808 ac fe'i defnyddiwyd yn aml yn ystafell wely plentyn. Daw ei henw o'r papur wal lliwgar a arferai orchuddio'r waliau – gallwch weld rhywfaint ohono yn y ffotograff hwn o 1986.
Ystafell Ddianc
Bydd Gêm Ystafell Ddianc newydd yn agor yn yr ystafell hon. Ewch i www.cardigancastle.com am ragor o wybodaeth.
Y Brif Ystafell Wely
Cyn ychwanegu rhan flaen y tŷ ym 1827, hon oedd y brif ystafell wely. Cysgai David Griffith Davies (1836 -1906) yma pan oedd yn fachgen, a'i frawd yn yr ystafell gyfagos (sy’n ystafell ymolchi erbyn hyn). Mae'r ffotograff yn dangos yr ystafell cyn ei hadfer.
Ystafell ymolchi
Ym 1808 buasai hon yn ystafell wely i’r teulu neu westeion. Fe'i defnyddiwyd weithiau gan nani neu was ar gadw. Mae'r ffotograff yn dangos y lle tân ym 1986 cyn y gwaith adfer.
Ystafell Wely'r Dwyrain
Mae'r ystafell hon yn dyddio o 1808 ac roedd yn ystafell wely i’r teulu neu westeion. Mae ganddi olygfeydd gwych o'r ddwy ffenestr.
Lle Tân
Mae'r ffotograff yn dangos y lle tân cyn ei adfer. Sylwch ar y gorddrws bach i'r dde ohono, uwchben y silff waelod. Cafodd hwn ei osod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd milwyr o Gyffinwyr De Cymru yn byw yn yr adain ddwyreiniol bryd hynny, ac fe osodwyd nifer o orddrysau ganddynt er mwyn iddynt drosglwyddo gwybodaeth rhwng yr ystafelloedd heb orfod mynd i mewn iddynt.
Nenfwd Cromennog
Mae'r coridor wedi cadw ei nenfwd cromennog hardd. Mae'r ffotograff yn ei ddangos cyn yr adfer.
Agen Saethau
Mae'r rhan hon o'r grisiau sydd heb ei phlastro yn datgelu hollt saeth ganoloesol. Ar un adeg, hon oedd wal allanol Tŵr y Gogledd o’r 13eg ganrif. Pan adeiladodd John Bowen ei dŷ ym 1808, fe’i cysylltodd â thŵr y castell canoloesol a gorchuddiodd yr hollt saeth. Mae ochr arall yr hollt saeth (gweler y ffotograff) y tu mewn i gwpwrdd y neuadd y gallech fod wedi'i weld yn gynharach yn y daith.
Tŷ Prysur
Llawr Gwaelod yr Adain Ddwyreiniol
Llawr Cyntaf yr Adain Ddwyreiniol
Cyfarwyddiadau
Y Llyfrgell
Rhwng 1808 a 1827, yr ystafell hon oedd y Parlwr. Rhwng 1827 a 1924 roedd yn Llyfrgell. Ym 1851 roedd yr ystafell yn cynnwys cypyrddau llyfrau, soffa, cadair esmwyth yn ogystal â nifer o gadeiriau a byrddau mahogani. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan oedd Castell Aberteifi yn gartref i'r Peirianwyr Brenhinol, fe'i defnyddiwyd gan eu Prif Swyddog yn swyddfa.